Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach: Cylch Gorchwyl | Inquiry on the Impact of Brexit on Higher and Further Education

IB-03

Ymateb gan: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
Response from: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd

Cwestiwn 1: Beth yw'r heriau posibl i lwyddiant dysgwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol ar ôl Brexit, a beth a wneir a beth fydd yn bosibl ei wneud i oresgyn yr heriau hyn?

Gweler Cwestiwn 2 (Erasmus +).

Cwestiwn 2: I ba raddau y byddai colli cynllun symudedd ERASMUS+ yn effeithio ar y sector, a beth yw'r cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bod neu y gellid eu datblygu’n synhwyrol?

Mae pryderon sylweddol ynghylch y perygl o golli mynediad i’r cynllun Erasmus+.

Mae gan y cynllun Erasmus rôl mewn cynnig cyfleoedd nid yn unig ar gyfer cyfnodau preswyl dramor, ond ar gyfer teithiau gwaith maes. Gall y naill math o brofiad a’r llall gynorthwyo i sefydlu cysylltiadau rhwng sefydliadau ac unigolion yng Nghymru ac mewn amrywiol ardaloedd o gyfandir Ewrop – cysylltiadau a all ddod â budd hirdymor ar nifer o wahanol lefelau (unigol/gyrfaol/personol, sefydliadol, a chymdeithasol/gwleidyddol).

Cyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi

Cwestiwn 5: I ba raddau y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch yn dibynnu ar gyllid ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol?

Ar hyn o bryd, mae’n bosib i academyddion mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gydweithio gydag academyddion o brifysgolion mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), er enghraifft ar brosiectau cymharol. Gall rhain fod yn brosiectau sylweddol iawn eu maint, a/neu’n brosiectau mewn meysydd penodol iawn.

Yn y cyswllt hwn, mae pryderon yn codi ynghylch a fydd y math hyn o waith yn bosib yn y dyfodol yn sgil:

·         lleihad cyffredinol yn y cyfleoedd am ariannu (nifer y ffynonellau, ac o bosib maint y ffynonellau Prydeinig yn ogystal)

·         rhwystrau gweinyddol eraill i gydweithio a sefydlu rhwydweithiau ymchwil Ewropeaidd a allai ddod yn sgil Brexit

·         blaenoriaethau’r cynghorau ymchwil Prydeinig, sy’n gallu bod yn wahanol iawn i’r ffynonellau Ewropeaidd, ac o bosib yn llai cydnaws â rhai meysydd ymchwil cymdeithasegol/gwleidyddol â dimensiwn ‘Cymreig’ mewn cyd-destun cymharol